Ôl-raddedig
Nid oes unrhyw gyllid statudol ar gael ar lefel Ôl-radd (ac eithrio cyrsiau Hyfforddi Athrawon TAR a Gwaith Cymdeithasol), felly bydd rhaid i fyfyrwyr chwilio am ffynonellau eraill o gymorth ariannol.
Benthyciadau Datblygu Gyrfa
Benthyciad banc yw Benthyciad Datblygiad Proffesiynol a Gyrfa. Byddwch yn gwneud cytundeb gyda banc, sy’n cymryd rhan yn y cynllun, i fenthyca swm rhwng £300 a £10,000. Yna, unwaith y byddwch wedi gorffen astudio, byddwch yn ei dalu’n ôl yn y ffordd arferol. Am gyngor pellach, neu i archebu pecyn cais, ffoniwch y llinell gymorth ar Rhadffon 0800 585 505 neu ewch i www.direct.gov.uk/cdl
Bwrsariaethau Prifysgol
Cynigir bwrsariaethau ôl-radd gan wahanol Brifysgolion yng Nghymru ac efallai y bydd yn fuddiol i chi edrych ar wefannau i gael gwybodaeth bellach i weld a ellwch chi gael un.
Ymddiriedolaethau ac Elusennau
TAR (AB) Cynllun Bwrsariaeth Cymru 2012/13
Cyhoeddir gwybodaeth am y gefnogaeth ariannol ac argaeledd cymhelliannau ariannol yn 2012 ar y dudalen hon cyn gynted ag y bo’r manylion llawn ar gael.







