Graddau Arloesol
Cliciwch yma ar gyfer lleoedd gwag ar gyrsiau sy'n cychwyn ym mis Medi 2011
Mae nifer helaeth o raddau mewn addysg a’r meysydd perthynol i’w cynnig gan y prifysgolion sydd yn rhan o Fforwm Recriwtio Hyfforddiant ac Addysg Athrawon Cymru. Dyma ddetholiad i ddangos y dewis eang sydd ar gael gan ddibynnu ar eich diddordebau a’ch dyheadau gyrfaol.
Prifysgol Prifysgol Glyndwr: BA (Anrh) Chwarae a Gwaith Chwarae
Prifysgol Aberystwyth: Addysg, cyfuniadau prif-bwc/is-bwnc a graddau cyfun
Gallwch gyfuno Addysg gyda phwnc arall mewn tair ffordd:
- Graddau Cyfun Addysg: 50% Addysg a 50% Pwnc arall
- Graddau Addysg fel prif bwnc: 66% Astudiaethau Addysg + 33% pwnc arall
- Graddau Addysg fel is bwnc: 33% Astudiaethau Addysg + 66% pwnc arall
Os dewiswch bwnc ysgol fel yr ail bwnc, gallwch ystyried dysgu fel gyrfa. Darllenwch fwy>>>
Prifysgol Fetropolitan Abertawe: BA (Anrh) Astudiaeth Addysg neu fel gradd gyfun gyda Chwnseal newu Seicoleg
Bydd Astudiaethau Addysg yn ystyried ystod eang o faterion addysgol ac yn datblygu dealltwriaeth o ddysgu ym mhob oedran, gan gynnwys dysgu gydol oes, trwy amrywiaeth o gyd-destanau. Bydd y radd yn darparu i chi ddealltwriaeth o bolisi, proses a chwricwlym addysg, ynghyd â’r wybodaeth sydd ei hangen ar y gweithlu ym maes addysg. Darllenwch fwy (anrhydedd sengl)>>> Bydd astudio Addysg fel pwnc cyfun anrhydedd gyda naill ai cwnsela neu seicoleg yn cyfuno'r ddau bwnc yn gyfartal. Darllenwch fwy>>>
Prifysgol Bangor: BA (Anrh) Astudiaethau Plentyndod (anrhydedd sengl neu gyfun)
Cyfeiria ‘Plentyndod’ at fywyd plentyn o’r blynyddoedd cynnar hyd at yr arddegau, a hyn fydd craidd y radd Astudiaethau Plentyndod, sydd yn trin ystod o agweddau sy’n berthnasol i blentyndod. Dewis y cyfuniadau pynciau i’r sawl sydd am astudion Astudiaethau Plentyndod ynghyd â phwnc arall (fel gradd gyfun), yw: Hanes, Seicoleg, Astudiaethau Crefyddol, Polisi Cymdeithasol, Cymdeithaseg a Chymraeg. Darllenwch fwy >>>
Prifysgol Agored: BA (Anrh) Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctdi
Gradd yw hon i bobl sy’n gweithio neu sy’n bwriadu gweithio, neu i’r rhai sydd â diddordeb ehangach ym maes rhyngddisgyblaethol astudiaethau plentyndod ac ieuenctid. Gallwch ddewis canolbwyntio ar agwedd arbenigol – megis datblygiad y plentyn – neu efallai bod yn well gennych ddilyn llwybr mwy galwedigaethol tuag at waith proffesiynol gyda phlant neu bobl ifanc. Pa lwybr bynnag y dewiswch, bydd eich gwybodaeth a sgiliau dadansoddi yn datblygu mewn perthynas â pholisïau, arferion a materion sydd yn effeithio ar fywydau plant a phobl ifanc ar draws nifer o sefyllfaoedd. Darllenwch fwy>>>
UWIC: BA (Hons) Astudiaethau Addysg a dewiswch ymysg y llwybrau hyn: Astudiaethau Plentyndod Cynnar, Saesneg, Hanes Modern, Seicoleg, Chwaraeon a Gweithgaredd Corfforol neu Gymraeg
Yn ystod y radd hon byddwch yn cwblhau modiwlau craidd mewn Astudiaethau Addysg beth bynnag fydd eich llwybr arbenigol. Mae’r rhain yn trin: cyflwyniad i natur addysg; rheoli dysgu disgyblion; materion cwricwlaidd ac asesu; cwrdd ag anghenion unigolion; ymchwilio i ddysgu ac addysgu yng nghyfnodau penodol oedran; arsylwi mewn ysgol; materion gwleidyddol, cyfreithiol a phroffesiynol mewn Addysg ac ymchwil ac ymholi mewn Addysg. Darllenwch fwy>>>
Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Saint: BA (Anrh) Addysg Blynyddoedd Cynnar / BA (Anrh) Addysg Blynyddoedd Cynnar a Chynhwysiad Cymdeithasol
Maes astudio swynol yw sut mae plant yn dysgu. Mae ganddo ei fframweithiau penodol ei hun a’i ofynion addysgol arbenigol ei hun. Seilir y cwrs ar ymrwymiad i’r egwyddor y dylai gwasanaethu addysg i blant fod o’r safon uwch. Mae gweithlu blynyddoedd cynnar sydd wedi’u hyfforddi’n drylwyr, yn wybodus ac yn hyderus yn eu meddiant o’r sgiliau yn hanfodol i ddarparu safon uchel yn yr holl wasanaethau i blant ifanc. Ymateb y Drindod i’r angen hwn ar gyfer gweithlu graddedig ym mhob agwedd o wasanaethau i’r blynyddoedd cynnar yw’r cwrs hwn. Darllenwch fwy>>>
Prifysgol Cymru, Casnewydd: Therapïau Creadigol mewn Addysg

Datblygwyd y radd hon mewn ymateb i’r newidiadau mewn addysg ac ymwybyddiaeth gynyddol o arfer cynhwysol yn y celfyddydau. Bydd y cwrs yn hyfforddi myfyrwyr i weithio’n therapiwtig, addysgol ac yn greadigol trwy eu cyfrwng - celf, cerddoriaeth neu ddawns - gyda phlant a phobl ifanc. Bydd myfyrwyr yn datblygu eu cyfrwng i safon gradd gyda phwyslais ar weithdai proses greadigol, profiad a datblygu sgiliau pan fyddant ar leoliad. Mae cynnwys y cwrs wrth raddio yn cwympo’n gysyniadol rhwng therapydd ac addysgwr ac mae’r ffin hwn yn gyffrous ac yn llawn botensial creadigol. Darllenwch fwy>>>







