Lleoliadau Gwaith
Prifysgol Fetropolitan Abertawe: Mae myfyrwyr ar y rhaglen Astudiaethau Addysg yn cymryd rhan mewn lleoliadau gwaith ym mhob blwyddyn o’u hastudiaethau ar y rhaglen yn y Met Abertawe. Bydd hyd y lleoliadau’n cynyddu yn raddol dros gyfnod y cwrs, gan ddechrau gydag un wythnos yn y flwyddyn gyntaf hyd at dair blynedd yn y flwyddyn olaf, gyda’r bwriad o roi cyfle i’r rhai yn y drydedd flwyddyn sydd yn cwblhau eu prosiect ymchwil gymryd rhan mewn ymchwil gweithredol yn eu maes astudio eu hun.
Prifysgol Cymru, Casnewydd: Mae modiwlau lleoliadau wrth wraidd y rhaglen radd mewn Addysg gyda myfyrwyr yn gwneud un bob blwyddyn. Bydd y Goruchwyliwr Lleoliadau Kris Sobol yn eich cefnogi i gael lleoliad perthnasol. Mae’r myfyrwyr cyfredol wedi cael lleoliadau mewn ysgolion cynradd a meithrinfeydd lleol, Ysgol Goedwig Dyffryn, Canolfannau Integredig i Blant yng Nghaerdydd a Chwmbrân; gyda’r elusen i blant, Barnardos, ward plant a phobl ifanc yn Ysbyty Brenhinol Gwent; y gwasanaeth tân, tîm cysylltu ag ysgolion yr heddlu a mentrau SureStart lleol.Prifysgol Agored: Cynigia’r Brifysgol Agored Raddau Sylfaen mewn Blynyddoedd Cynnar, Gweithio gyda Phobl Ifanc a Chwaraeon a Ffitrwydd. Mae’n dull rhan-amser, Dysgu o bell yn wahanol i’r ddarpariaeth fwy traddodiadol gan y’i hanelir at bobl sydd yn barod yn gweithio yn y sector. Golyga hyn na fydd lleoliadau’n broblem gan y bydd y myfyriwr sydd yn cofrestru ar ein Graddau Sylfaen yn defnyddio’r lleoliad y maen nhw’n gyfarwydd ag ef yn barod er mwyn dilyn y modiwlau’n seiliedig yn y gweithle o fewn y cwrs.
UWIC: Mae lleoliadau gwaith ac astudio yn ganolog i ddysgu ac addysgu’r rhaglen hon. Mae’r amser a dreulir gydag ymarferwyr mewn sefyllfaeodd bob dydd yn rhoi cyfleon arbennig i bwyso a mesur y cysylltiadau rhwng theori a phrofiad ymarferol. Mae hefyd yn rhoi’r cyfle i fyfyrwyr werthuso sgiliau y bydd yn rhaid iddyn nhw eu cael i wneud y gwaith eu hunain ar ôl graddio. Datblygir yn gyson bartneriaethau gydag ymarferwyr newydd. Mae ystod o gyfleon yn barod mewn ysgolion cynradd ac uwchradd ac mewn sefyllfaodd y tu allan i ysgol. Rydyn ni hefyd yn annog ac yn cefnogi ein myfyrwyr i ymgymryd â gwaith gwirfoddol ynglwm wrth eu diddordebau posib wrth ddewis gyrfa. Mae myfyrwyr wedi datgan bod y profiadau hyn weithiau wedi cadarhau eu syniadau gwreiddiol am eu cynlluniau gyrfa tra gydag eraill mae wedi newid eu meddyliau yn gyfan gwbl. Darllenwch beth sydd gan ein myfyrwyr i ddweud:
“Bob wythnos rydw i wedi gwirfoddoli yn Ysgol Goedwig UWIC. Roedd yn dda gweld sut roedd hyder a hunan barch y plant yn datblygu dros raglen chwe wythnos. Ysbrydolodd y gwaith fi i barhau i wirfoddoli bob wythnos a hyd yn oed ddilyn Gwobr Arweinyddiaeth Ysgol Goedwig (lefel 3). Mae wedi bod yn dipyn o waith i’w wneud ochr yn ochr ag astudio ar gyfer fy ngradd ond mae fy nhiwtoriaid wedi rhoi llawer o gymorth. Erbyn yr adeg y byddaf yn dechrau’r cwrs TAR Cynradd ym mis Medi bydd gennyf gymhwyster defnyddiol arall. Fy mwriad yw sefydlu ysgol goedwig fy hun rywle. Cadwch lygad…” Carys
“Ar gyfer fy lleoliad yn yr ail flwyddyn euthum i ward plant mewn ysbyty ble roeddwn yn cysgodi gweithwyr chwarae ac athrawon ymgynghorol. Mwynheais ddysgu sut y darparwyd mewn modd sensitif ar gyfer anghenion unigol plant er gwaethaf yr anawsterau. Er graddio rydw i wedi cofrestru ar gwrs Meistr mewn therapi chwarae a rydw i’n gobeithio gweithio yn y dyfodol yn cefnogi plant gydag ystod o anghenion datblygu.” Anna
“Mynychais Feithrinfa Steiner ar gyfer fy lleoliad. Roedd yn wych i weld sut roedd plant yn dysgu drwy chwarae ac yn arwain wrth gynllunio gweithgareddau. Mwynheais yn arbennig sylwi ar sut roedd ymarferwyr yn gweithio gyda rhieni. Yn y dyfodol rydw i’n gobeithio agor meithrinfa breifat fy hun. Byddaf yn siwr o ddefnyddio rhai o’r syniadau a ddysgais.” Rhiannon







