Cyflog a Manteision
Manteision astudio am radd mewn Addysg
Mae Sefydliadau Addysg Uwch yn cynnig ystod eang o gyrsiau’n ymwneud ag Addysg a gweithio gyda phlant a phobl ifanc. Bydd llawer o’u graddedigion yn mynd ymlaen i waith yn y sector addysg (edrychwch yn adran Gyrfaoedd y safle hwn am fwy o fanylion), ond byddant i gyd yn datblygu sgiliau a phriodweddau a fydd yn werthfawr yng ngolwg cyflogwyr yn gyffredinol. Nid oes angen gradd benodol ar gyfer tua 50% o swyddi i raddedigion ac felly mae myfyrwyr Addysg yr un mor gymwys i fynd yn swyddogion gyda’r heddlu, neu reolwyr dan hyfforddiant, â myfyrwyr gydag unrhyw radd arall. I weld pa sgiliau a gewch drwy wneud graddau’n ymwneud ag Addysg, ewch i wefan GO Wales. (Saeneg yn unig)
Mae’r enghreifftiau canlynol wedi eu seilio ar swyddogaethau gwirioneddol myfyrwyr a astudiodd yng Nghymru am raddau’n ymwneud ag addysg. Maent yn cynnwys:
- Gwaith Ieuenctid a Chymuned
- Addysg Blynyddoedd Cynnar / Astudiaethau Plentyndod Cynnar
- Astudiaethau Addysg
- Cymdeithaseg / Cynhwysiad Cymdeithasol
- Cefnogi Dysgu
- Hyfforddiant ar gyfer dysgu yn y sector addysg ôl-orfodol (addysg bellach, uwch ac oedolion)
| Swydd | Cyflog Nodweddiadol (2009) |
| Swyddog Addysg | £20,000 - 25,000 |
| Cynghorwr Addysg | £20,000 - 25,000 |
| Cefnogi Dysgu/ Cynorthwywr Dysgu | £12,000 - 14,000 |
| Cydlynydd Cefnogi Dysgu | £15,800 - 17,000 |
| Gweithiwr Chwarae mewn Canolfan i Deuluoedd | £16,500 - 18,500 |
| Gweithiwr Ieuenctid/Swyddog Datblygu Ieuenctid | £18,000 - 22,000 |
| Gweithiwr Cymunedol | £22,000 - 30,000 |
| Darlithydd Addysg Bellach | £17,000 - 23,000 |
| Gweithiwr Camddefnyddio Cyffuriau/Sylweddau (heb gymhwyster) | £18,000 - 20,000 |
| Cynorthwywr Therapi Iaith a Lleferydd | £15,500 - 19,000 |
| Technegydd/Cynorthwywr Therapi Galwedigaethol | £13,500 - 19,000 |
| Swyddog Cynhwysiad Ysgol | £20,000 - 27,000 |







