Cyfleoedd
Gall graddedigion gyda graddau Addysg fynd ymlaen i amrywiaeth o yrfaoedd a ddatblygwyd o ganlyniad i ad-drefnu gwasanaethau addysg a datblygiad gwaith ‘anhraddodiadol’ gyda phlant a’u teuluoedd.
Edrychwch ar ein fideo o’r Athro Karen Graham yng Nghanolfan y Plentyn Prifysgol Glyndwr a dysgwch am yr ystod sy’n ehangu o gyfleoedd gyrfa sy’n ymwneud â gweithio gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd. (Darllen mwy Saesneg yn unig)
Gofal Cymdeithasol
Mae nifer o raddedigion diweddar yn awr yn gweithio i brojectau a sefydlwyd gan Awdurdodau Lleol, neu a gyllidir gan adrannau’r Llywodraeth, i roi sylw i faterion penodol yn ymwneud â gofal cymdeithasol. Mae'r rhain yn cynnwys rhoi cefnogaeth i ofalwyr ifainc, helpu teuluoedd o ffoaduriaid i fedru cael addysg, gweithio gyda thadau absennol i ailsefydlu eu cysylltiad â'u plant a datblygu cysylltiadau yn eu cartrefi gyda theuluoedd sydd mewn perygl er mwyn gwella eu sefyllfa. Mae myfyrwyr hefyd wedi symud ymlaen yn llwyddiannus i gyrsiau ôl-radd mewn gwaith cymdeithasol.
Trydydd Sector
Mae gan sefydliadau gwirfoddol y trydydd sector hanes maith o gefnogi a chynorthwyo plant a’u teuluoedd gydag anawsterau penodol ac mae llawer o raddedigion addysg wedi cael eu cyflogi gan y rhain i ddatblygu a chyflwyno projectau penodol. Mae’r sefydliadau’n cynnwys Barnardos, Action for Children, the National Autistic Society and Girl Guiding UK, yn ogystal â llawer o grwpiau elusennol lleol.
Sector Preifat
Mae nifer o raddedigion wedi mynd ymlaen i sefydlu mentrau yn y sector preifat, neu i weithio i rai. Mae’r rhain wedi amrywio o agor canolfannau chwarae meddal a meithrinfeydd preifat i weithio i’r Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol yn dadansoddi data o leoliadau blynyddoedd cynnar. Eleni mae un myfyriwr graddedig yn dechrau mewn swydd fel hyfforddwr Ysgol Fforest i ddarparwr hyfforddiant cenedlaethol, sy’n adlewyrchu twf y sector preifat mewn meysydd a oedd gynt dan reolaeth awdurdodau lleol.
Addysg
Bob blwyddyn mae rhai myfyrwyr yn mynd ymlaen i astudio am gymwysterau ôl-radd i ddysgu yn y sectorau cynradd, uwchradd neu ôl-16. Mae rhai graddedigion yn mynd i swyddi cefnogi mewn ysgolion a chyflogir rhai i gyflwyno rhaglenni penodol, megis Adfer Darllen.
Meysydd eraill
Mae natur ddeinamig y maes yn golygu bod swyddogaethau newydd a gwahanol brojectau yn dod i'r amlwg yn gyson. Yn y blynyddoedd diwethaf mae gennym raddedigion sydd wedi mynd ymlaen i fod yn therapyddion galwedigaethol, gweithwyr chwarae, cydlynwyr Iaith a Chwarae, rheolwyr canolfannau integredig i blant, mentoriaid unedau cyfeirio disgyblion a chydlynwyr dysgu awyr agored. Mae nifer o raddedigion wedi mynd ymlaen i weithio yn America, Awstralia a gwledydd eraill.
Mae yna lawer o lwybrau eraill hefyd i weithio gyda phlant a phobl ifanc. Gweler www.careerswales.com i gael syniadau am yrfaoedd.







