Swyddog Addysg
Cyflogir swyddogion addysg mewn sawl sector gan gynnwys cwmniau d?r, theatrau, o fewn y gymdogaeth, amgueddfeydd, cadwriaeth, amgylcheddol ac ymddiriedolaethau. Mae’r swyddi gan amlaf yn gofyn i chi lunio rhaglenni addysg i grwpiau o ysgolion, cynradd ac uwchradd yn ogystal â chynulleidfaoedd arbenigol a’r cyhoedd.
Efallai gofynnir am arbenigedd a/ neu gymwysterau ffurfiol yn ogystal â gradd Addysg. Byddai gwneud gradd gyd-anrhydedd drwy gyfuno Addysg / Astudiaethau Addysg â phwnc academaidd arall rydych yn ei fwynhau megis hanes neu ddrama yn ehangu eich cyfleoedd am swydd.
Fel Swyddog Datblygu ar gyfer yr elusen addysg Learning through Landscapes Cymru mae Sarah a raddiodd o Gasnewydd yn gweithio gydag ysgolion a lleoliadau blynyddoedd cynnar i’w helpu i sylweddoli potensial eu mannau awyr agored ar gyfer addysgu a dysgu. “Rwy’n hyfforddi athrawon ac ymarferwyr i ddefnyddio, dylunio a rheoli mannau awyr agored. Mae hyn yn golygu fy mod yn datblygu modiwlau hyfforddi hefyd a’m prif lwyddiant yn y maes hwn yw arwain y tîm a roddodd y modiwl hyfforddi Dysgu yn yr Awyr Agored y Cyfnod Sylfaen Llywodraeth Cynulliad Cymru (LlCC) at ei gilydd ac fe’i defnyddir ledled Cymru i hyfforddi athrawon ac ymarferwyr.”
Swyddi Cefnogi Addysg Uwch
Mae nifer o swyddi gweinyddol, proffesiynol a rheoli ar gael o fewn prifysgolion i’r rheini â gradd yn ymwneud ag Addysg. Mae swyddi yn cynnwys swyddogion prosiect, swyddogion sicrhau ansawdd, swyddogion datblygu a chynllunio, swyddog derbyn a dirprwy gofrestr gyda chyfleoedd datblygu gyrfa da ynddynt. Hysbysebir swyddi ar wefannau prifysgolion. Mae Find a Universityjob.com yn wefan ddefnyddiol i ddod o hyd i whanol fathau o swyddi.
Swyddog Cyswllt Ysgolion a Cholegau
Mae swyddogion cyswllt ysgolion a cholegau yn gweithio’n uniongyrchol gydag ysgolion a cholegau yn rhoi cyflwyniadau ar gylch recriwtio UCAS, datganiadau personol, cyllid a bywyd myfyriwr. Hysbysebir swyddi gwag ar wefannau prifysgolion.
Cynghorwyr Gyrfa
Mae cynghorwr gyrfa / cynghorwr personol yn rhoi gwybodaeth / cyngor diduedd ac arweiniad i helpu pobl wneud dewisiadau realistig am addysg, hyfforddiant a dewisiadau gyrfa. Yn Lloegr gwneir hyn drwy gyfrwng Connexions, yng Nghymru drwy gyfrwng Gyrfa Cymru a cheir cyfleoedd mewn colegau a sefydliadau addysg uwch. Gellir ennill cymhwyster drwy gwblhau’n llwyddiannus gymhwyster ôl radd mewn Arweiniad Gyrfaoedd / Cymhwyster mewn Arweiniad Gyrfaoedd (CAG). Os ydych yn gweithio mewn sefydliad sydd yn rhoi gwasanaethau cynghori gyrfa gellwch weithio tuag at NVQ lefelau 3 a 4 mewn Cyngor ac Arweiniad.